
Darparu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
|

|
mwy o newyddion...
Mae arolwg cynhyrchwyr Canolfan Organig Cymru yn dangos cynnydd mewn gwerthiant organig o ffermydd CymruMae'r adroddiad arolwg cynhyrchwyr 2016 Canolfan Organig Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos hon wedi dangos cynnydd yng ngwerthiant cynnyrch organig, er gwaethaf gostyngiad yn arwynebedd tir sydd wedi ei ardystio'n organig yng Nghymru. Ar yr un pryd, bu cynnydd yn nifer y ffermydd a'r arwynebedd tir a gwmpesir gan y cynllun Glastir Organig, ac mae diddordeb cryf ymysg ffermydd sydd am drosi.
O'i gymharu â'r canlyniadau yn 2015, mae gwerthiant cig oen organig gorffenedig i fyny o 17%, o 120,000 i 140,000 pen, gwartheg organig gorffenedig i fyny 16%, o 5,000 i 5,800 pen, a gwerthiant llaeth organig i fyny 7%, o 56 i bron i 60 miliwn litr. Mae'r cynnydd hwn yn gyson â'r cynnydd o 7% mewn gwerthiant bwyd organig yn marchnad manwerthu y DU yn 2016, ac yn dangos y potensial ar gyfer cynhyrchwyr Cymru i dyfu wrth ymateb i gyfleoedd y marchnad domestig a thramor.
Fodd bynnag, mae'r arwynebedd ardystiedig llawn-organig a thir trosi a gofnodwyd gan Defra yn 2016 wedi gostwng o 1.8%, o 82.9 i 81,500 ha, o ganlyniad i gyfuniad o arwynebedd llai o dir yn trosi, ond cynnydd o 1% yn y yr ardal o dir sy'n cyflawni statws organig llawn. Mae hyder o fewn y sector yn parhau i fod yn uchel, gyda 39% o gynhyrchwyr a arolygwyd yn bwriadi parhau i gynhyrchu'n organig am 10 mlynedd neu fwy, a 38% arall am 3-5 mlynedd.
Cododd Nic Lampkin, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Organig a gynhyrchodd yr adroddiad ar ran Canolfan Organig Cymru, bryderon am y dyfodol: 'Gyda dim ond cyfran fechan o ymgeiswyr sy'n gymwys ar gyfer cytundebau Glastir organig o 2017 oherwydd cyfyngiadau cyllido, a dim cyfle ar y gweill ar gyfer cytundebau newydd yn 2018, a fydd cynhyrchwyr Cymru yn gallu manteisio ar y optimistiaeth newydd yn y sector organig? Neu a fydd y cyfleoedd yn cael eu colli i'r gwynt wrth i'w cymdogion yng ngweddill y DU ennill y farchnad?
darllen mwy
Stori gynt: Glastir Organic 2017 applications – URGENT and VERY important
Mwy o newyddion
|
|